CROESO

Croeso i wefan cyngor ein cymuned.  Mae dalgylch y Cyngor yn ymestyn o Gaerdeon a phentref Bontddu, heibio i Gwm Mynach a Thai Cynhaeaf,  a Llanelltyd hyd at Faes Mawr.  Gorwedd yr ardal hon ar hyd lan ogleddol Afon Mawddach yn yr hen Sir Feirionnydd.  Ceir yma ymdeimlad cryf o hanes ar hyd y canrifoedd; o olion Oes y Cerrig i Abaty Cymer a Gwaith Aur y Clogau.  Gwelir harddwch ar bob llaw; o aber y Fawddach i gopa'r Diffwys a'r Rhinogau, ac, wrth gwrs, ysblander Cader Idris dros yr afon tua'r de.

Yn y tudalennau hyn cewch drosolwg  o’r hyn mae’r cyngor yn ei wneud ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal.

 

Go to top